Lleoliad:
Video conferece via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mai 2023
Amser:
09.01 -
10.31
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg: Adolygiad o Gysylltiadau Addysg â Chyflogwyr (30
munud) –
gohiriwyd tan fis Gorffennaf
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud)
– gohiriwyd tan 13 Mehefin
· Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (15 munud)
Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – gohiriwyd o 6 Mehefin
Gofynnodd Darren Millar i’r Llywodraeth gyflwyno datganiad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn toriad yr haf.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 21 Mehefin 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad llafar hefyd ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), y mae gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud iddo yn San Steffan ar hyn o bryd, a chadarnhaodd y bydd Memorandwm Atodol yn cael ei osod cyn gynted â phosibl. Nododd y Trefnydd bosibilrwydd y gallai fod angen cynnal y ddadl cydsyniad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn mor gynnar â 6 Mehefin.
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac nad yw’r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm.
4.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac nad yw’r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol.
4.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adroddiad ar y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor Busnes yr argymhelliad, a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn nodi ei fod yn bwriadu trafod opsiynau ar gyfer adolygiad posibl o broses Biliau Aelodau yn ystod tymor yr haf, a bydd yn ystyried argymhelliad y Pwyllgor wrth wneud hynny.
4.5 Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
5 Pwyllgorau
5.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cais i aelodau’r Pwyllgor gynnal busnes y Pwyllgor yn ystod toriad yr haf
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i fynd ar ymweliad i Frwsel yn ystod wythnos olaf toriad yr haf.
5.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch slotiau cyfarfodydd ychwanegol i’r pwyllgor
Derbyniodd y Pwyllgor Busnes gais y Pwyllgor Safonau Ymddygiad iddo gael hyblygrwydd i gwrdd ar fore Llun pan nad oes ganddo slot cyfarfod wedi'i amserlennu, yn ôl yr angen.
5.3 Sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru
Trafododd y Pwyllgor Busnes faterion yn ymwneud â sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddant yn cynnig y dylai’r Pwyllgor gynnwys tri aelod Llafur, dau o’r Ceidwadwyr ac un o Blaid Cymru, gan gynnwys Cyd-gadeiryddion.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T i ddatgymhwyso'r broses ar gyfer ethol Cadeirydd i'r Pwyllgor, a chynnig y dylid penodi Cyd-gadeiryddion. Cytunwyd y byddai'r Cyd-gadeiryddion yn Aelodau o'r grwpiau Llafur a'r Ceidwadwyr ac y dylent fod yn gytbwys o ran rhywedd. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Cyd-gadeiryddion yn gysyniad newydd ar gyfer y Senedd.
Gofynnodd y Pwyllgor Busnes y dylid drafftio'r cynnig/cynigion sy'n ofynnol i weithredu eu penderfyniad, gyda'r bwriad o gynnig atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi'r Pwyllgor i gael ei sefydlu ddydd Mercher 24 Mai. Dywedodd y Llywydd y byddai ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i oblygiadau ymarferol, gweithdrefnol a chyfreithiol Cyd-gadeiryddion.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y drafodaeth ynghylch amserlennu cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.
6 Casglu ynghyd ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
6.1 Diweddariadau ar y Canllawiau ar Gynnal Busnes y Senedd yn Briodol a diwygiadau iddynt
Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau arfaethedig i’r canllawiau. Gofynnodd Darren Millar i gyngor pellach gael ei roi ar ddefnyddio'r bleidlais fwrw mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch caniatâd i fwrw ymlaen â Biliau Aelodau mewn seneddau eraill. Gofynnodd y Trefnydd i ganllawiau mewn perthynas â chwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr gael eu diwygio i ddangos na ddylid eu defnyddio ar gyfer materion etholaethol yn unig. Dywedodd y Llywydd y byddai’n trafod y materion a godwyd ymhellach.
7 Ymgysylltu ag Ewrop
7.1 Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop
Trafododd y Pwyllgor Busnes fater parhaus enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop, gan nodi’r gwahaniaeth barn rhwng grwpiau’r pleidiau o ran enwebiadau, a chytunodd y byddai’n dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.
8 Unrhyw faterion eraill
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y cynnig i eistedd ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Mercher 21 Mehefin am 12.45 ac y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl hanner tymor.